OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 453 (Cy. 51) (C. 20)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn i’w wneud o dan y Mesur.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 28 Chwefror 2014 adrannau 4 a 155(5) o’r Mesur.
Mae adran 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodau awdurdod lleol yn mynychu cyfarfodydd yr awdurdod o bell.
Mae adran 155(5) yn gwneud darpariaeth ynghylch ad-dalu taliadau a wnaed i aelodau o awdurdodau perthnasol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub Cymru).
Gweler hefyd adran 178(1) (cychwyn) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 11 Mai 2011 (drannoeth y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor) ac adran 178(2) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2011 (diwedd y cyfnod o 2 fis a ddechreuodd ar y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 (2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)) a Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012 (2012 Rhif 1187 (Cy. 145) (C. 40)), a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 1 i 3 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Adrannau 5 i 33 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adrannau 56 a 57 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adrannau 61 i 75 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 78 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy. 145) (C.40) |
Adrannau 81 i 86 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adrannau 87(1) a (2) |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adrannau 88 i 99 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 141 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Adran 142 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 143 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40)
|
Adran 144 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Adran 145 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 146 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Adran 147 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 148 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 149 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 150 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 151 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 152 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 153 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 154 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 155(1) |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 155(2), (3) a (4) (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 156 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 157 (yn rhannol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
31 Awst 2011
30 Ebrill 2012 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) 2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 158 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Adran 160 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adrannau 161 i 171 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Adran 176(1) |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Adran 176(2) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Atodlen 2 |
31 Awst 2011 |
2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74) |
Atodlen 3 |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
Atodlen 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
30 Ebrill 2012 |
2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 453 (Cy. 51) (C. 20)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014
Gwnaed 27 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011([1]).
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 28 Chwefror 2014
2. Mae’r darpariaethau a ganlyn ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn dod i rym ar 28 Chwefror 2014—
(a) adran 4([2]) (mynychu cyfarfodydd o bell); a
(b) is-adran (5) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru